Siguenos
iBookstore
Android app on Google Play
Like Us
Un programa de
Galaethau yn Gymdogion Drwg
11 de December de 2014

Galaethau yn Gymdogion Drwg

Nid ydy galaethau llawn sêr (fel y Llwybr Llaethog) wedi eu gwasgaru ar hap ar draws y Bydysawd, maent i’w gweld mewn grwpiau neu glystyrau.  Mae ein galaeth ni yn aelod o’r Grŵp Lleol ynghyd a thua 30 o alaethau eraill.  Yn syml, fersiynau llawer yn fwy o’r grwpiau ydy’r clystyrau.

 Os dychmygwch y grwpiau galaeth fel trefi, wedyn mae’r clystyrau’n ddinasoedd, a’r ‘superclusters’ ydy’r gwledydd lle mae’r trefi a’r dinasoedd wedi eu lleoli.

Ond nid yna diwedd y stori.  Mae’r ‘superclusters’ yma trwy’r bydysawd yn creu'r hyn a alwn yn ‘we gosmig’.

Arlunydd sydd wedi creu’r darlun hwn i ddangos rhan o’r we gosmig.  Gallwch weld fod ganddo batrwm fel gwe pry cop sy’n croesi’r cosmos cyfan, ac mae pob dot yn alaeth fel ein Llwybr Llaethog.

Mae astudiaeth newydd o'r we gosmig wedi datgelu cyfrinachau am ei rôl yn hanes y Bydysawd . Amser maith yn ôl , pan oedd y Bydysawd yn hanner ei oedran presennol, dechreuodd y galaethau oedd wedi eu dal yn y we gosmig gyflymu drwy eu bywydau i gymharu â rhai a geir mewn mannau eraill.

Mae seryddwyr yn credu y digwyddodd hyn oherwydd pwysau gan gyfoedion y galaethau gerllaw.  Fe wnaeth y galaethau oedd wedi eu clystyru ar hyd breichiau’r we gosmig rhyngweithio mewn ffordd a wnaeth achosi iddynt ddefnyddio eu nwy i wneud sêr newydd a’u rhuthro tuag at ddiwedd eu hoes!

Ffaith Cŵl

Pe fyddai galaeth y Llwybr Llaethog yr un maint a haden sesame , yna byddai we gosmig y bydysawd gweladwy'r un maint a’r pyramid yn Giza .

Share:

More news
14 September 2020
10 September 2020
3 September 2020

Fotografías

Las galaxias son vecinas perturbadoras
Las galaxias son vecinas perturbadoras

Printer-friendly

PDF File
1,1 MB