Siguenos
iBookstore
Android app on Google Play
Like Us
Un programa de
Ble’r aeth y sêr gwib uwchben?
31 de August de 2017, Caerdydd

Caiff awyr y nos ei oleuo'n rheolaidd gan rhibannau o dân – ffenomen gyda’r enw cyffredin ‘sêr gwib’. Ond, peidiwch â chamgymryd eu bod yn gysylltiedig â sêr. Darnau bach o graig ydynt, o’r enw ‘meteorau’, sy’n llosgi yn ein hatmosffer wrth iddynt ddisgyn.

Yn aml, daw’r meteorau yma at y Ddaear mewn grwpiau. Gelwir y rhain yn ‘gawodydd meteor”, a chaiff eu hachosi gan gomedau. Creigiau, llwch y gofod, ac iâ yw cyfansoddiad y rhain. Wrth iddynt deithio’n agos at yr Haul, achosir i’r iâ arnynt i doddi yn y gwres. Mae darnau bach o lwch a chraig hefyd yn dianc o’r gomed, gan baentio cynffon disglair yn awyr y nos wrth iddynt losgi yn atmosffer y Ddaear.

Cawod meteor diddorol iawn yw’r “Pheonicidau”. Daeth i’r golwg yn 1956 ... ond yna diflannodd, gan adael seryddwyr i gwestiynu “Ble’r aeth y sêr gwib uwch ben?”.

I geisio ateb y cwestiwn, ymchwilion nhw i mewn i gomed arall ac aeth ar goll, comed Blanpain. Cafodd ei ddarganfod gan ddau seryddwr yn 1819, ond erbyn diwedd y flwyddyn, diflannodd heb unrhyw sôn.

Ond yna, bron i 200 mlwyddyn yn ddiweddarach, cafodd asteroid ei weld yn teithio ar hyd union yr un llwybr â’r gomed Blanpain o 1819. I’w syfrdan, darganfyddon nhw mai’r un gomed oedd y ddau! Gweddillion y gomed wreiddiol darganfyddon nhw. Daeth y seren wib yn ôl!

Mae’r creigiau, nwy, a’r iâ sydd wedi dianc o’r gomed yn awr yn hedfan fel llwybr o lwch drwy’r gofod. Fel yr asteroid, mae’n dilyn yr un llwybr teithiodd comed Blanpain amser maith yn ôl, ac wrth i’r llwybr o lwch deithio drwy’r atmosffer, mae’r gronynnau bach yn disgleirio. Dyma sy’n creu’r gawod meteor Pheonicidau!

Ffaith Cŵl

Ffaith Ddiddorol! Daw’r holl ddeunydd sy’n achosi’r cawodydd meteor o’r un cyfeiriad yn yr awyr, ac felly gelwir y cawodydd gan amlaf ar ôl pa bynnag grŵp o sêr sydd tua i’r un cyfeiriad. 

Heledd Roberts

Share:

More news
14 September 2020
10 September 2020
3 September 2020

Fotografías

Lluvia de meteoros de las Gemínidas
Lluvia de meteoros de las Gemínidas

Printer-friendly

PDF File
1,2 MB